Gofalwch am eich iechyd Gogledd Cymru

Gwiriadau Iechyd Blynyddol

Mae gennych hawl i gael Gwiriad Iechyd Blynyddol ac unrhyw addasiadau rhesymol i’ch meddygfa ble rydych yn mynychu er mwyn i chi allu mynychu gyda hyder. Fel dinesydd sydd ag anabledd dysgu gallwch weld eich Meddyg bob blwyddyn. Bydd eich Meddyg yn cynnal gwiriadau corfforol llawn i sicrhau eich bod yn iawn, ac fe allent eich anfon i gael rhagor o brofion os ydych chi eu hangen. Cewch wybod os ydi popeth yn iawn neu os oes angen i chi gymryd camau i helpu i wella eich iechyd. Byddant hefyd yn gofyn i chi a/neu eich gofalwr am eich Iechyd Meddwl a Lles, sy’n cynnwys gwybodaeth am eich meddyliau, teimladau ac ymddygiad. Os byddwch chi angen rhagor o brofion neu angen cymorth neu gyngor neu gefnogaeth bydd hyn yn cael ei nodi yn eich cynllun gofal er mwyn i chi a’ch gofalwr ddeall pa weithredoedd sydd eu hangen. Mae gennym wybodaeth yma i ofalwyr a meddygon teulu a staff y Feddygfa.

Gobeithio y bydd yr wybodaeth yn ddefnyddiol i chi. Rydym yn croesawu adborth ac yn edrych ymlaen at lunio rhagor o wybodaeth neu ddarparu rhagor o ddolenni i wefannau defnyddiol.

Fideo byr yn dweud wrthych am archwiliad iechyd blynyddol.

Fideo byr gyda David a Sonia yn sôn am fynd am archwiliad iechyd