Mae'r fideo byr hwn yn helpu i ateb rhai o'r cwestiynau a allai fod gan bobl am fynd i gael eu sgrinio.

Datblygwyd y fideo mewn partneriaeth â Gogledd Cymru Ynghyd, TAPE Community Music and Film a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Beth yw Sgrinio Iechyd?

Mae sgrinio yn ffordd o ddod o hyd i bobl sy'n ymddangos yn iach ond a allai fod mewn mwy o berygl o gael clefyd neu gyflwr. Gellir cynnig gwybodaeth, profion a thriniaeth iddynt i leihau eu risg ac unrhyw broblemau a ddaw yn sgil y clefyd neu'r cyflwr.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu’r rhaglenni sgrinio GIG canlynol ledled Cymru